Dug a Duges Caergrawnt gyda'u babi
Mae’r BBC wedi amddiffyn y sylw maent wedi rhoi i enedigaeth mab Dug a Duges Caergrawnt ar ôl derbyn cwynion gan wylwyr.

Roedd rhai o wylwyr y BBC wedi cwyno fod gormod o sylw yn cael ei roi i enedigaeth y plentyn a bod diffyg cydbwysedd yn yr hyn oedd yn cael ei adrodd, gyda’r teulu brenhinol yn derbyn ffafriaeth.

Ond dywedodd y BBC fod y gorfforaeth wedi cymryd gofal arbennig i sicrhau fod straeon newyddion eraill yn cael sylw gan ddweud bod genedigaeth y plentyn yn boblogaidd iawn ymysg cynulleidfaoedd.

Mewn datganiad dywedodd y BBC: “Rydym yn fodlon fod ein cynulleidfaoedd wedi derbyn y sylw gorau o’r digwyddiad hanesyddol-bwysig yma, sef genedigaeth etifedd newydd i’r frenhiniaeth yn ogystal â newyddion eraill ar draws allbwn darlledu’r BBC.”

Mae’n ymddangos fod gwefan newyddion y BBC wedi derbyn y nifer fwyaf erioed o ymwelwyr ar ddiwrnod genedigaeth y plentyn, gyda 19.4 miliwn o ymwelwyr unigryw a 10.8 miliwn o ymwelwyr o Brydain.

Dywedodd y BBC eu bod wedi rhoi sylw i farn y gwahanol garfanau yn ystod stori’r enedigaeth gan gynnwys barn sefydliad Republic, sy’n ymgyrchu yn erbyn y frenhiniaeth.

“Rydym wedi gofalu fod sylw yn cael ei roi i amryw o gyfranwyr gan gynnwys y bobl sydd ddim yn cefnogi’r frenhiniaeth a’r sylw mae’r holl beth wedi ysgogi.”