Mae’r cyhoeddwyr llyfrau Parthian a Savvy wedi cydweithio i greu cyfres ddwyieithog o e-lyfrau i helpu plant i ddysgu darllen yn Gymraeg a Saesneg.
Cafodd ‘Wedi Dy Weld Di! / Found You Rabbit!’ ei chyhoeddi fel llyfr yn 2010, ac mae’r cyhoeddwyr wedi mynd ati i’w drosglwyddo i ffurf ddigidol.
Mae’r llyfr yn rhoi hanes cwningen a hwyaden ac yn adrodd am eu hanturiaethau yng nghefn gwlad.
Mae’r e-lyfr yn cynnig golwg ryngweithiol ar y stori, ac yn uwcholeuo geiriau fel bod modd i blant ddarllen y stori yn uchel.
Hwn yw’r datblygiad diweddaraf ym myd cyhoeddi llyfrau yng Nghymru, ac mae nifer o gyhoeddwyr eraill wedi bod yn chwilio am gyfleoedd i drosglwyddo llyfrau i ffurfiau eraill o dechnoleg.
Y Lolfa
Mae’r Lolfa wedi bod yn ymgyrchu er mwyn cael rhoi llyfrau Cymraeg ar wefan Amazon.
Mae ganddyn nhw 5,000 o enwau ar ddeiseb fydd yn cael ei chyflwyno i Amazon, Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Dywedodd llefarydd ar ran Y Lolfa eu bod nhw wedi cael “ymateb annelwig” ynghylch rhoi llyfrau Cymraeg ar Amazon hyd yma.
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, fe fydd Cyngor Llyfrau Cymru’n lansio cynllun peilot ar gyfer ap llyfrau Cymraeg newydd.
Fel rhan o’r cynllun, fe fydd tri llyfr Cymraeg ac un llyfr Saesneg yn cael eu rhoi ar yr ap.
Bydd modd cael yr ap am ddim, ond fe fydd rhaid talu am y llyfrau.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwybodaeth a Hyrwyddo’r Cyngor Llyfrau, Phil Davies fod y cynllun yn “torri tir newydd”.
Wrth ymateb i newyddion Parthian, dywedodd Phil Davies: “Nid Parthian yw’r cyntaf i wneud hyn, ond gorau po fwyaf o gyhoeddwyr sy’n cynyddu’r ddarpariaeth yn y Gymraeg.”