Y ffilm James Bond ddiweddaraf, Skyfall, yw’r ffilm fwyaf llewyrchus yn hanes y diwydiant ffilm ym Mhrydain.

Mae’r ffilm, a gafodd ei chyfarwyddo gan Sam Mendes, wedi gwneud elw o £103 miliwn ym Mhrydain a thros $1 biliwn ar draws y byd i gyd.

Y ffilmiau eraill mwyaf llewyrchus o ran elw yn 2012 oedd The Dark Knight Rises (£56.3 miliwn), The Hobbit: An Unexpected Journey (£52.2 miliwn) a Marvel Avengers Assemble (£51.9 miliwn).

Yn ôl ffigurau Llyfr Ystadegau 2013 y BFI, roedd y nifer o bobol a aeth i’r sinema yn 2012 wedi cyrraedd 172.5 miliwn, gyda derbyniadau o sinemâu ym Mhrydain yn £1.1 biliwn – y ffigwr uchaf erioed.

Dywedodd Prif Weithredwr y BFI, Amanda Nevill: “Fe wnaeth tri o uwcharwyr Prydain arwain y gâd gyda ffilmiau Prydeinig yn ystod seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd – Bond, Boyle a Bean – ac mae’r ysbîwr, James Bond wedi bod yn rhan annatod o sinemâu’r byd yn 2012.”

Fe gafodd 647 o ffilmiau eu rhyddhau yn 2012, sy’n gynnydd o 89 ar y flwyddyn flaenorol.