Mae Ofcom wedi cyhoeddi bod gan ITV Cymru drwydded ar wahân i weddill gwledydd Prydain am y tro cyntaf.

Mae’r drwydded newydd yn golygu y bydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno’r flwyddyn nesaf.

Eisoes, mae ITVCymru’n darlledu rhaglenni ar wahân oddi wrth weddill ITV, ond bydd y drwydded newydd yn ffurfioli’r broses honno.

Yn ôl amodau’r drwydded newydd, bydd rhaid i ITV Cymru ddarlledu rhaglen newyddion o 30 munud bob nos.

Bydd hyd rhaglenni newyddion amser cinio, hwyr yn y nos a phenwythnosau’n cael ei gwtogi.

Bydd y newidiadau’n dod i rym wrth i drwyddedau newydd gael eu cyflwyno, ond fe fyddan nhw’n berthnasol i drwyddedau presennol hefyd.

Bydd de-orllewin Lloegr, sydd wedi rhannu trwydded gyda Chymru hyd yma, hefyd yn meddu ar ei thrwydded ei hun fel rhan o’r drefn newydd.

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd llefarydd treftadaeth y Ceidwadwyr, Suzy Davies: “Rydym yn croesawu’r newyddion am rannu HTV Cymru a West yn gynnes iawn, a fydd yn parhau i weld rhaglenni Cymreig go iawn ar gyfer cynulleidfaoedd Cymreig.

“Rwy hefyd yn falch na fydd lleihad yn nifer y munudau fydd gan ITV Cymru i ddarparu rhaglenni newyddion a rhai nad ydyn nhw’n newyddion.

“Er fy mod i’n croesawu amddiffyn 30 munud o newyddion Cymreig yn gynnar yn y nos, rwy’n gweld y bydd gan ITV Cymru ychydig o hyblygrwydd yn ffordd y byddan nhw’n trefnu gweddill eu hymrwymiad amser newyddion.

“Gobeithio na fydd hynny’n arwain at eitemau newyddion yn diflannu i mewn i amser gwag pan nad yw unrhyw un yn gwylio.

“Os ydyn nhw am gwtogi rhai o fwletinau eraill y dydd, efallai y gallen nhw ddefnyddio munudau ‘dros ben’ i dynnu sylw at straeon newyddion o fwy o lefydd yng Nghymru.”