Ian Jones
Mae Prif Weithredwr S4C wedi  rhybuddio nad yw’r amseroedd caled i S4C a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru drosodd o bell ffordd.

Fe wnaeth Ian Jones ei sylwadau mewn araith ar faes y Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd. Bu’n rhoi  teyrnged i’r diwydiant darlledu yng Nghymru am dynnu at ei gilydd yn ystod cyfnod o galedi aruthrol.

Fis diwethaf, cafodd S4C hwb ariannol wrth glywed na fydd Llywodraeth San Steffan yn torri’r swm mae’n ei gyfrannu i gyllideb y Sianel ar gyfer 2015/16 – ond er hynny, fe fydd cyllideb S4C yn dal i leihau dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i’r setliad ariannol a gyhoeddwyd eisoes.

‘Cefnogol’

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: “Mae’r ffordd y mae’r diwydiant darlledu wedi tynnu at ei gilydd dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn arwydd grymus o’r pendantrwydd a’r weledigaeth sy’n bodoli.

“Mae hi wedi bod o galondid mawr i fi fel Prif Weithredwr y Sianel genedlaethol – bod ein partneriaid ni yn y sector cynhyrchu a’r diwydiannau creadigol yn ehangach wedi bod mor fentrus, mor hyblyg ac mor gefnogol yn ystod y cyfnod o gynni ariannol ry’n ni’n mynd drwyddo.”

“Mae aelwyd darlledu Cymraeg yn ymestyn yn ehangach na chwmnïau’r diwydiannau creadigol ac S4C yn unig.  Mae hi heddiw yn cynnwys cefnogwyr o bob rhan o fywyd Cymru… Heb yr ymdrechion hynny, a heb y gefnogaeth anhygoel a gafwyd, mae’n bosib iawn y byddai S4C wedi wynebu toriadau llawer llymach dros y blynyddoedd nesaf.”

‘Heriau mawr yn parhau’

Ond ychwanegodd: “Mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i beidio â thorri ymhellach y swm mae’n ei gyfrannu i goffrau S4C fis diwethaf yn rhyddhad mawr ac yn galondid mawr i ni gyd.

“Mae ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015/16 yn hwb – ond dewch inni beidio â meddwl bod y dyddiau caled ar ben.  Bydd y swm o arian sydd gan S4C yn dal i leihau dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i’r toriadau blaenorol – ac mae hynny’n golygu y bydd yr heriau mawr yn parhau.

“Beth bynnag a ddaw, dwi’n ffyddiog y byddwn ni’n gallu wynebu heriau’r dyfodol yn gryf gyda’n gilydd.”