Kate a William
Mae Duges Caergrawnt wedi cael ei chludo i Ysbyty’r Santes Fair yn Llundain ac ar fin rhoi genedigaeth, meddai Palas Kensington heddiw.

Mae hi’n disgwyl ei phlentyn cyntaf.

Roedd wedi teithio mewn car o Ysbyty Kensington i adran breifat Lindo yn yr ysbyty gyda Dug Caergrawnt.

Mae’n debyg nad ydyn nhw’n gwybod rhyw y babi.