Maes awyr Heathrow
Mae arbenigwyr ar ddamweiniau awyr yn parhau a’u hymchwiliad i achos tân ar fwrdd awyren Boeing 787 Dreamliner ym Maes Awyr Heathrow.

Fe aeth yr awyren ar dân tra wedi’i pharcio toc wedi 4.30yp ddoe.

Doedd yna neb ar ei bwrdd ar y pryd, a chafodd neb eu hanafu. Cwmni Ethiopian Airlines oedd berchen yr awyren.