Mae nifer y ceisiadau am loches yng ngwledydd Prydain wedi cyrraedd 500,000 – ac fe fyddia’r gwaith o’u prosesu’n cymryd bron i 40 mlynedd. Dyna rybudd grwp o Aelodau Seneddol.

Mae’r cynnydd yn nifer y troseddwyr o dramor sy’n byw yng ngwledydd Prydain, tra’u bod yn aros i gael eu hanfon gartre’ hefyd wedi’i gyhoeddi gan Bwyllgor Dethol Materion Cartref, mewn adroddiad i’r asiantaeth UK Border Agency.

Mae’r pwyllgor yn rhybuddio fod y penderfyniad diweddar i ddileu’r asiantaeth a chreu dwy adran newydd i wneud y gwaith, yn beryg o wneud dim mwy nac “ail-frandio”, pan nad oes dim wedi newid go iawn.