Mae ymgyrch ar droed i arbed cefn gwlad Lloegr sy’n llawn “cyfoeth ac ysbrydoliaeth”. Dyna farn Aelodau Seneddol a phobol amlwg o fyd y celfyddydau dros Glawdd Offa, sy’n dweud mai penderfyniadau cynllunio sydd ar fai.

Mae’r grwp ymgyrchu wedi annog gwleidyddion i adeiladu ar dir brown, a rhoi mwy o hawliau i bobol leol ddweud eu dweud am gynlluniau datblygu.

Mae’r enwogion sy’n rhan o’r ymgyrch yn cynnwys y digrifwr a’r hanesydd, Tony Robinson, y ddigrifwraig Jo Brand, awdur War Horse, Michael Morpurgo, yn ogystal â’r Aelodau Seneddol Zac Goldsmith a Nick Herbert.

Mewn llythyr ym mhapur newydd The Daily Telegraph heddiw, maen nhw’n dweud mai’r cyfan y maen nhw’n galw amdano yw “mwy o degwch i gymunedau lleol, sy’n methu’n gynyddol â rhwystro’r datblygiadau sy’n dinistrio eu trefi a’u cefn gwlad.”