Bydd diffoddwyr tân yn pleidleisio dros yr haf ynglŷn â’r posibilrwydd o gynnal streic oherwydd newidiadau arfaethedig i bensiynau.
Dywedodd Undeb y Frigâd Dân (FBU) fod y newidiadau arfaethedig yn ‘anymarferol’ ac y gallai’r newidiadau arwain at filoedd o ddiffoddwyr tân yn wynebu cael eu diswyddo wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.
Fe gafodd y penderfyniad i gynnal pleidlais ei wneud ar ôl i’r Llywodraeth ddweud y byddai’n rhaid i ddiffoddwyr tan dderbyn y newidiadau erbyn Gorffennaf 12 neu wynebu gorfodaeth o’r mesurau.
Mae’r Llywodraeth wedi bod mewn trafodaethau gyda’r FBU ers dwy flynedd.
Bydd y bleidlais yn cymryd lle rhwng Gorffennaf 18 ac Awst 29 a bydd unrhyw streiciau yn cael eu cyhoeddi nes ymlaen, os oes cefnogaeth i gynnal streic.