Mae cwmni Premier Foods yn bwriadu cau melin flawd 109 oed sy’n cynhyrchu bara Hovis a chacennau Mr Kipling yn Y Barri.
Mae disgwyl i 43 o swyddi gael eu colli pan fydd y safle’n cau ym mis Hydref.
Cafodd y safle ei godi yn 1904 gan gwmni Hovis.
Bydd y toriadau’n cael eu cyflwyno’n raddol dros y misoedd nesaf.
Cafodd safle’r cwmni yn Glasgow ei gau ym mis Ebrill, gan golli 15 o swyddi.
Bydd cwmni Premier Foods, sy’n rheoli’r is-gwmnïau, yn parhau i weithredu yn Southampton, Manceinion a Threcelyn ar gyfer yr archfarchnad, tra bydd y safleoedd yn Wellingborough, Selby, Andover a Gainsborough yn canolbwyntio ar fara a nwyddau bob dydd.
Gallai nifer o reolwyr golli eu swyddi o ganlyniad i’r newidiadau yn strwythur y cwmni.
Diolchodd llefarydd ar ran Premier Foods i’r gweithwyr.