Wyn Thomas
Mae Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Wyn Thomas wedi ymddiswyddo o’i waith.
Ond fe fydd e’n parhau i fod yn ddarlithydd yn yr Adran Gerddoriaeth.
Fe fu’n gyfrifol am y Gymraeg a’r gymuned ers tair blynedd.
Graddiodd o Brifysgol Bangor yn 1979, a bu’n ddarlithydd yn yr Adran Gerdd ers hynny.
Yn rhinwedd ei swydd fel Dirprwy Is-Ganghellor, fe fu’n gyfrifol am ddarpariaeth Gymraeg y Brifysgol, dwyieithrwydd ac astudiaethau cyfrwng Cymraeg.
Fe fu’n rhan allweddol o brosiect y ganolfan gelfyddydau, Pontio hefyd.
Bu’n bennaeth Dysgu ac Addysgu Coleg y Celfyddydau, Addysg a’r Dyniaethau rhwng 2007 a 2010.
Bu hefyd yn allweddol wrth sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg ym maes cerddoriaeth fel rhan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
‘Rhesymau personol’
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor: “Yn dilyn cyfnod o bron i dair blynedd fel Dirprwy Is-Ganghellor gyda chyfrifoldeb am faterion yn ymwneud â’r Gymraeg a’r Gymuned, mae Wyn Thomas wedi penderfynu ildio’i gyfrifoldebau am resymau personol a dychwelyd i’r Ysgol Cerddoriaeth ym mis Hydref.
“Rydym yn hynod ddiolchgar iddo am ei gyfraniad sylweddol i’r Brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ystod ei gyfnod fel Dirprwy Is-Ganghellor.”