Jim Davidson
Mae’r comedïwr Jim Davidson, sydd wedi’i amau o gyflawni troseddau rhyw, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth unwaith eto.

Cafodd Davidson, sy’n 59 oed, ei arestio ym mis Ionawr fel rhan o Ymchwiliad Yewtree, a gafodd ei sefydlu yn dilyn helynt Jimmy Savile.

Cafodd dyn arall, sy’n 53 oed, ei ryddhau ar fechnïaeth hefyd.

Mae nifer o fenywod wedi cyhuddo Davidson o gyflawni troseddau rhyw dros gyfnod o 35 o flynyddoedd, ond mae e wedi gwadu’r holl gyhuddiadau.

Hyd yn hyn, mae 13 o bobol wedi cael eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad.

Dim ond dau sydd wedi cael eu cyhuddo, tra na fydd tri arall yn wynebu achos llys.

Mae’r ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus Max Clifford yn un o’r ddau sydd wedi cael eu cyhuddo.

Mae Clifford yn wynebu 11 cyhuddiad gan saith o fenywod, oedd rhwng 14 a 19 oed ar y pryd.

Honnir i’r troseddau gael eu cyflawni rhwng 1966 ac 1985.

Ni fydd cynhyrchwyr y BBC, Wilfred De’ath a Ted Beston, a dyn arall 65 oed yn wynebu cyhuddiadau.

Mae Gary Glitter, Freddie Starr a Rolf Harris yn dal ar fechnïaeth.