Gorymdaith oren
Mae’r Aelod Seneddol Nigel Dodds wedi ei wahardd o’r siambr yn Nhŷ’r Cyffredin am ddiwrnod ar ôl cyhuddo Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Theresa Villiers o roi ateb camarweiniol i gwestiwn.

Fe gafodd Nigel Dodds, sy’n ddirprwy arweinydd yr Unoliaethwyr Democrataidd, ei enwi gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow ar ôl iddo wrthod tynnu’n ôl ei sylwadau dair gwaith.

Dywedodd John Bercow y byddai AS Gogledd Belfast yn cael ei ddiarddel o’r siambr am weddill y dydd.

Roedd Nigel Dodds wedi gofyn cwestiwn  ynglŷn â phwerau Theresa Villiers i wrthod penderfyniad y Comisiwn Gorymdeithio i atal yr urdd Oren rhag gorymdeithio heibio safle lle mae trafferthion sectyddol wedi bod  ers blynyddoedd.