Andy Murray
Mae David Cameron wedi ychwanegu at y dyfalu y bydd pencampwr Wimbledon, Andy Murray, yn cael ei urddo.

Dywedodd y Prif Weinidog bod yr anrhydedd yn cael ei  benderfynu yn annibynnol ond ychwanegodd: “Ni allaf feddwl am unrhyw un sy’n haeddu un yn fwy nag ef.”

Dywedodd bod buddugoliaeth Murray, y Prydeiniwr cyntaf i ennill teitl senglau’r dynion yn Wimbledon ers 77 mlynedd, wedi “codi ysbryd yr holl wlad”.