Andy Murray, pencampwr Wimbledon 2013
Mae’r Albanwr Andy Murray wedi ennill pencampwriaeth y dynion yn Wimbledon ar ôl curo’i wrthwynebydd Novak Djokovic 6-4 7-5 6-4.

Ef yw’r dyn cyntaf o Brydain i ennill y bencampwriaeth ers Fred Perry yn 1936.

Mewn gêm llawn cyffro fe fu’n rhaid i Murray weithio’n galed am ei fuddugoliaeth mewn gwres a gyrhaeddodd bron i 50 gradd C ar brydiau yng nghwrt canolog Wimbledon.

Er iddo ennill y tair set, fe fu’n rhaid iddo frwydro ar ôl bod 4-1 i lawr yn yr ail set. A hyd yn oed yn y gêm olaf, fe ddaliodd ei wrthwynebydd o Serbia i’w herio ar ôl tri phwynt gornest cyn i Murray sicrhau ei fuddugoliaeth i gymeradwyaeth frwd y dorf.