Mae nifer y bobl sy’n cael eu lladd mewn damweiniau ffordd wedi gostwng i’w lefel isaf ers i gofnodion ddechrau.
Mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Patrick McLoughlin fod nifer y bobl gafodd eu lladd ar y ffyrdd wedi gostwng o 1,901 yn 2011 i 1,754 yn 2012.
Meddai: “Yn 2012 bu gostyngiad o 8% yn nifer y bobl a gafodd eu lladd ar ein ffyrdd, y lefel isaf ers i gofnodion ddechrau yn 1926 – mae hyn yn newyddion da”.
Ond ar y llaw arall, cyhoeddodd Patrick McLoughlin fod marwolaethau ymysg beicwyr ar ffyrdd Prydain wedi cynyddu 10% yn 2012.
Ychwanegodd Patrick McLoughlin: “Does dim lle i esgeulustod. Mae’r cynnydd yn nifer y beicwyr a laddwyd yn dangos pa mor bwysig yw ein gwaith i wneud beicio yn fwy diogel.”
Dywedodd llefarydd ar ran yr AA nad oedd y ffigurau yn “achos i ddathlu” a bod y cynnydd yn nifer y beicwyr sy’n cael eu lladd mewn damweiniau ffordd yn un o bryderon mwyaf yr AA.