Mae yna bryderon am griw o hwylwyr Americanaidd sydd wedi mynd ar goll rhwng Seland Newydd ac Awstralia.

Dydyn nhw ddim wedi cael eu gweld na’u clywed ers tair wythnos.

Eu neges ddiwethaf oedd: “Mae’r tywydd wedi troi’n arw, sut ydyn ni’n ffoi rhagddo?”

Mae’r criw yn gyfuniad o chwe Americanwr ac un Prydeiniwr rhwng 17 a 73 oed.

Mae yna le i gredu bod y cwch wedi dechrau’r daith o ddinas Panama yn Fflorida cyn mynd i Awstralia.

Gadawodd y cwch Seland Newydd ar Fai 29 ac roedden nhw’n bwriadu teithio i Newcastle ger Sydney erbyn canol mis Mehefin.

Ar y diwrnod olaf y clywodd yr awdurdodau gan yr hwylwyr, cawson nhw rybudd i beidio symud tan fod y storm wedi dod i ben.

Yn ystod y storm, cyrhaeddodd y gwynt gyflymdra o 68 milltir yr awr, ac roedd y tonnau’n 26 troedfedd o uchder.

Mae achubwyr yn Seland Newydd, gan gynnwys y llu awyr, yn parhau i chwilio am y cwch.

Dywed yr awdurdodau eu bod nhw’n ymchwilio i nifer o bosibiliadau, gan gynnwys y ffaith fod y cwch wedi colli’r gallu i gyfathrebu, ei fod wedi hwylio oddi ar y llwybr cywir, neu fod y criw wedi cael gafael ar fadau achub.

Ond ychwanegodd fod posibilrwydd y gallai’r cwch fod wedi suddo cyn i’r awdurdodau allu ymateb.