Cartref Bryn Estyn ger Wrecsam
Mae dyn gafodd ei arestio ddoe yng Nghaerlŷr  ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar dri bachgen wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd y dyn 62 oed ei arestio fel rhan o Ymchwiliad Pallial i achosion o gam-drin mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

Cafodd y dyn ei holi mewn gorsaf heddlu yng Nghaerlŷr  ynglŷn â honiadau o ymosod yn rhywiol ar dri bachgen rhwng 12 a 14 oed rhwng 1969 a 1984.

Fe yw’r ail berson i gael ei arestio ers i’r ymchwiliad gychwyn fis Tachwedd y llynedd.

Mae’r ymchwiliad i gam-drin mewn cartrefi gofal wedi clywed honiadau fod 84 o bobl yn gyfrifol am ymosodiadau rhywiol rhwng 1963 a 1992.