Roedd y gost i’r trethdalwr o gynnal y Teulu Brenhinol yn ystod blwyddyn Jiwbilî Diemwnt y Frenhines wedi cynyddu bron i £1m i £33.3 miliwn.
Mae ffigyrau wedi eu cyhoeddi heddiw gan Balas Buckingham yn dangos fod gwariant swyddogol y Frenhines wedi cynyddu £900,000 yn ystod 2011/12.
Taith Dug a Duges Caergrawnt i Dde Asia oedd y daith dramor fwyaf costus gyda chost o £370,000 tra bod costau teithio awyr a rheilffordd y teulu wedi disgyn £500,000 i £4.5 miliwn.
Dywedodd Syr Alan Reid, Ceidwad y Pwrs Cyfrin:“Mae’r Tŷ Brenhinol yn parhau i leihau eu gwariant, sydd wedi ei gyllido gan y trethdalwr, yn flynyddol, gan gyflawni gostyngiad o 24% dros y 5 mlynedd ddiwethaf.”
Mae disgwyl i’r arian cyhoeddus sy’n cael ei ddefnyddio i dalu am y Teulu Brenhinol godi i £36.1 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol yma ac yna i £38 miliwn yn ystod 2014/15.