Mae undeb Unsain wedi beirniadu penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i barhau â chynllun diswyddiadau.

Fel rhan o’r cynlluniau, gallai hyd at 400 o staff golli eu swyddi.

Dywedodd llefarydd ar ran Unsain eu bod nhw’n “siomedig iawn” gyda’r penderfyniad.

Ychwanegodd pennaeth iechyd Unsain Cymru, Dawn Bowden fod trafodaethau’n parhau er mwyn osgoi diswyddiadau ledled Cymru.

Dywedodd: “Mae penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i barhau â phroses ddiswyddo yn torri ar draws y trafodaethau hynny ac yn eu tanseilio’n llwyr.

“Mae’r bwrdd iechyd yn honni bod diswyddiadau’n ateb terfynol ar ôl i’r holl bosibiliadau eraill gael eu hystyried ac maen nhw’n defnyddio’r esgus “goblygiadau cyfreithiol” i greu sefyllfa nad ydyn ni’n credu sy’n angenrheidiol ar hyn o bryd.

“Nawr, bydd ein haelodau’n bryderus iawn am eu swyddi o ganlyniad i gamau rydyn ni’n credu mai’r bwrdd iechyd yn eu cymryd heb fod angen ar hyn o bryd.”

Mae Unsain wedi gofyn am gyfarfod brys i drafod y mater gyda’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.