Craig Mitchell
Mae prop Cymru Craig Mitchell wedi pledio’n euog i ymosod ar ddyn mewn tafarn yn Brisbane dros y penwythnos.
Clywodd llys ynadon yn Brisbane fod Mitchell, sydd wedi ennill 15 cap i Gymru, a Richard Andrew Davies, 25, wedi achosi niwed corfforol i’r cyfreithiwr Cian Barry mewn tafarn nos Sul diwethaf.
Roedd Craig Mitchell yn Awstralia i wylio gêm brawf Y Llewod yn erbyn Awstralia yn dilyn taith Cymru i Japan.
Cafodd Mitchell ddirwy o $1,000 a gorchymyn i dalu iawndal o $2,000 i Cian Barry.
Dywedodd Mitchell wrth yr ynadon nad oedd yn gwybod sut y byddai’n talu’r iawndal i Cian Barry ar fyr rybudd ac wrth glywed hyn penderfynodd yr ynad Anne Thacker y dylai Mitchell dreulio noson mewn cell.
Mae disgwyl i’r achos ddod gerbron yr ynadon eto fore Gwener.
Roedd disgwyl i Mitchell hedfan yn ôl adre ddydd Gwener ond mae Anne Thacker wedi dweud ei bod am i’r iawndal a’r ddirwy gael eu talu cyn iddo adael y wlad.