Mike mas
Fydd mewnwr Cymru, Mike Phillips, ddim yn nhîm y Llewod ar gyfer yr ail brawf, na hyd yn oed ar y fainc.

Er ei fod ar gael, fe ddywedodd yr hyfforddwr, Warren Gatland, ei fod wedi penderfynu gorffwys Phillips oherwydd trafferth gyda’i droed.

Ond roedd Phillips wedi cael gêm wael yn y Prawf Cyntaf a nifer yn galw am ei hepgor.

Fe awgrymodd Gatland y gallai fod rôl bwysig i’r mewnwr yn y Trydydd Prawf.

Dan i mewn

Does dim lle chwaith i Alex Cuthbert, er iddo sgorio cais yn y prawf diwetha’ – ond mae amheuon am gêm gyffredinol yr asgellwr.

Ar y llaw arall, mae’r blaen asgellwr o Gymro, Dan Lydiate, wedi ennill ei le yn y rheng ôl – y bennod ola’ mewn stori drawiadol ar ôl iddo golli bron y cyfan o’r tymor diwetha’ oherwydd anaf.

Ef oedd y capten yn y gêm ganol wythnos ac fe gafodd ganmoliaeth fawr am ei daclo di-ildio.

Y pump newid

Lydiate yw un o’r pump newid yn y tîm gyda Ben Youngs yn dod i mewn yn fewnwr a Tommy Bowe ar yr asgell.

Ben Youngs sy’n disodli Mike Phillips, Tommy Bowe yn lle Alex Cuthbert a Dan Lydiate yn cael ei ffafrio o flaen blaenasgellwr Lloegr Tom Croft.

Y ddau newid arall yw’r newydd-ddyfodiaid Mako Vunipola a Geoff Parling sydd wedi elwa o anafiadau i’r prop Alex Corbisiero a Paul O’Connell yn yr ail reng.

Er bod Paul O’Connell, capten taith y Llewod i Dde Affrica yn 2009, yn colli gweddill y gyfres, bydd yn aros gyda’r garfan yn Awstralia.