Mae Clwb Pêl-droed Abertawe yn gobeithio denu’r chwaraewr canol cae, Jonathan de Guzman, yn ôl i’r Liberty y tymor nesa.

Fe wnaeth de Guzman argraff yn syth gyda’r Elyrch y tymor diwethaf, wrth iddo sgorio 8 gôl mewn 45 ymddangosiad ymhob cystadleuaeth, wedi iddo ddod ar fenthyg o Villarreal.

Mae Abertawe yn gobeithio y bydd de Guzman, 25, yn dod ’nôl i’r Liberty ar gyfnod ar fenthyg eto.

‘Gobeithiol’

“Y gobaith yw y gallwn gyrraedd cytundeb gyda Villarreal yn fuan. Rydym yn obeithiol y bydd hynny’n digwydd,” meddai Huw Jenkins wrth y South Wales Evening Post.

Roedd de Guzman yn un o chwaraewyr gorau Abertawe’r tymor diwethaf, ac roedd  ei berfformiadau wedi arwain at gael ei alw i dîm cenedlaethol yr Iseldiroedd, lle mae wedi gwneud 5 ymddangosiad.