Mae’r Llewod wedi hawlio buddugoliaeth yn erbyn y Melbourne Rebels o 35-0 ym Mharc AAMI heddiw.

Fe sgoriodd y Llewod 5 cais heb ateb yn erbyn eu gwrthwynebwyr. Sgoriodd Conor Murray a Sean Maitland yn yr hanner cyntaf, gyda Sean O’Brien a Ben Youngs yn sgorio yn yr ail hanner a chais gosb yn cael ei roi i’r Llewod hefyd.

Fe gafodd Sean O’Brien gem wych yn ogystal â Toby Faletau a fydd yn cadw’r pwysau ar yr wythwr Jamie Heaslip o ran pwy fydd yn chwarae yn erbyn Awstralia.

Roedd dominyddiaeth blaenwyr y Llewod yn amlwg trwy’r gêm. Fe ddaeth y cais cyntaf o sgarmes symudol cyn i Murray bigo’r bêl lan a neidio dros y llinell. Ychwanegodd Farrell 2 bwynt o’r ystlys. Sgoriodd Maitland yn hwyrach ac eto ychwanegodd Farrell 2 bwynt arall i’w gwneud yn 14-0 ar yr hanner.

Ail hanner

Trwy’r gêm roedd amddiffyn y Rebels yn dda, ond ar adegau roedd y Llewod yn torri trwyddo. Dyma a welwyd yn ystod cais O’Brien a ddaeth o dafliad. Roedd cywirdeb cicio Farrell i’w weld eto i wneud y sgôr yn 21-0, ac fe’i tynnwyd oddi ar y cae gan Gatland.

Gwelwyd eto gryfder y blaenwyr wrth i’r Llewod ennill cais gosb, a gafodd ei drosi gan Hogg a ddaeth i’r cae yn lle Farrell.

I gloi’r gêm fe sgoriodd Youngs gais unigol a thirio’r bêl o dan y pyst. Troswyd gan Hogg er mwyn cyrraedd sgôr terfynol o 35-0.