Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi canslo taith i Falaysia oherwydd ansawdd gwael yr aer yn y wlad.
Roedd disgwyl i gynrychiolwyr o’r clwb, gan gynnwys y rheolwr Malky Mackay, ei gynorthwyydd David Kerslake, y capten Mark Hudson a’r ymosodwr Craig Bellamy, hedfan i Kuala Lumpur ar ddydd Iau.
Ond wrth i stad o argyfwng gael ei gyhoeddi mewn rhai ardaloedd, a nifer o ysgolion yn cau, mae’r daith wedi ei ohirio am resymau iechyd a diogelwch, ac mae’r clwb yn gobeithio dod o hyd i ddyddiad addas yn y dyfodol.
Codi ymwybyddiaeth
Roedd y daith i Falaysia yn cynnwys ymweliadau i 1MCC (1 Malaysia Cardiff City), mentrau hyfforddi, ysgolion a chyfarfod a’r wasg ym Malaysia.
“Mae’n siomedig ond mae’n rhaid gohirio ymweliad Malky, David, Mark a Craig a chynrychiolwyr eraill y clwb, i Falaysia’r wythnos hon,” meddai perchennog Caerdydd, Tan Sri Vincent Tan.
“Roedd rhestr o ddigwyddiadau wedi’u trefnu cyn gemau agoriadol yr Uwch-Gynghrair er mwyn codi ymwybyddiaeth Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ym Malaysia ymhellach.”