Bydd pencampwyr cynghrair Cymru, y Seintiau Newydd, yn wynebu pencampwyr cynghrair Gwlad Pwyl, Legia, yn rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Legia oedd pencampwyr Gwlad Pwyl am y nawfed gwaith tymor diwethaf.

Y  Seintiau Newydd fydd yn chwarae adref yn y cymal cyntaf ar 16 neu 17 Gorffennaf gyda’r ail gymal i ddilyn wythnos yn ddiweddarach.

Yng Nghynghrair Europa, bydd dau o dimau Cymru’n chwarae yn erbyn timau o Latvia. Bydd enillwyr y gwpan Prestatyn, yn wynebu Metalurgs tra bydd Airbus yn chwarae yn erbyn Ventspils.

Bydd Bala yn chwarae yn erbyn Levadia Tallinn o Estonia. Bydd y tri chlwb o Gymru yn chwarae yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf a byddan nhw i gyd yn chwarae’r cymal cyntaf ar  4 Gorffennaf – wythnos cyn yr ail gymal.