Andy Murray
Mae Andy Murray wedi addo “rhoi popeth” i’w gêm gyntaf yn Wimbledon heddiw.
Bydd rhif un Prydain yn chwarae ei gêm gyntaf prynhawn yma pan fydd yn wynebu Benjamin Becker o’r Almaen.
Ar ei gyfrif Twitter, mynegodd Andy Murray ei ddiolch i’w gefnogwyr am eu cefnogaeth ac anogaeth.
Mae’r Albanwr yn gobeithio mai ef fydd y dyn Prydeinig cyntaf i gipio pencampwriaeth tenis Wimbledon ers Fred Perry yn 1936.
Mae cannoedd o bobl wedi treulio noson wlyb yn gwersylla yn Wimbledon er mwyn cael tocynnau i weld gêm gyntaf Murray gyda rhai yn cyrraedd mor gynnar â phrynhawn Sadwrn i sicrhau lle.
Yn ymuno ag Andy Murray ar ddiwrnod agoriadol y chwarae fydd y pencampwr presennol Roger Federer a’r cyn enillwyr Rafael Nadal, Lleyton Hewitt a Maria Sharapova.
Ac mae’r bwcis yn rhagweld pencampwriaeth dda i Andy Murray gyda bwci William Hill yn rhoi ods o 4/1 ar yr Albanwyr i ennill Wimbledon.