Jason Tovey
Mae Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd y maswr Jason Tovey yn gadael y rhanbarth i ail-ymuno a Dreigiau Casnewydd Gwent.
Fe ymunodd Tovey a’r Gleision yn 2012, lle wnaeth chwarae 17 gem i’r rhanbarth, gan gynnwys gem Gŵyl San Steffan yn erbyn y Dreigiau.
“Hoffwn ddiolch i Jason am ei ymrwymiad i’r Gleision dros y flwyddyn ddiwethaf a hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol,” meddai Prif Weithredwr Gleision Caerdydd, Richard Holland.
Mae Tovey wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda’r Dreigiau a bydd yn dychwelyd i Rodney Parade ar gyfer yr hyfforddiant cyn y tymor nesaf.
Roedd hyfforddwr y Dreigiau, Lyn Jones, yn falch iawn o gael Tovey nol ar Rodney Parade. “Nid yw pethau wedi gweithio iddo gyda’r Gleision, ond rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn dychwelyd i Went ac i’w helpu i gyrraedd ei lawn botensial.”
“Rwy’n falch iawn o gael ailymuno a’r garfan newydd yng Ngwent. Roedd y tymor diwethaf yn un anodd i mi’n bersonol ond yr wyf wrth fy modd o fod yn gweithio gyda Lyn unwaith eto, ac yn edrych ymlaen at wella fy ngêm a helpu Gwent i fyny’r gynghrair,” meddai Tovey.