Mae News International, sy’n gyfrifol am bapurau fel The Sun a’r Sunday Times, wedi newid ei enw i News UK.

Mae’r ail-frandio yn rhan o broses ehangach i ailwampio cwmni Rupert Murdoch yn sgil yr helynt hacio ffonau oedd wedi arwain at gau’r News of the World yn 2011.

Mewn datganiad ar eu gwefan newydd dywedodd y cwmni fod yr enw a’r logo newydd i fod i “gyfleu delwedd drefnus a rhesymegol i’r cwmni ar draws y byd.”

Dywedodd Mike Darcey, Prif Weithredwr News UK: “Gyda phobl newydd a strategaeth newydd byddwn yn cymryd ein lle o fewn cwmni newydd, yn benderfynol o sicrhau dyfodol cynaliadwy i newyddiaduraeth broffesiynol o amgylch y byd.”

Fe fydd News Corp, sy’n cynnwys News UK, yn gweithredu fel busnes cyhoeddi a phapurau newydd ar wahân o ddydd Gwener. Fe fydd y busnes adloniant yn masnachu o dan yr enw 21st Century Fox.