Stephen Lawrence
Mae disgwyl i deulu Stephen Lawrence gyfarfod â’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May yfory gan alw am ymchwiliad cyhoeddus newydd i honiadau fod yr heddlu wedi ceisio eu difrïo.

Dywedodd Michael Mansfield QC, sy’n cynrychioli’r teulu, eu bod yn awyddus i unrhyw ymchwiliad newydd edrych ar holl achosion o ymchwiliadau cudd gan Adran Arbennig Heddlu Llundain yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau.

Mae hyn y dilyn honiadau gan gyn-aelod o’r heddlu cudd, Peter Francis sy’n dweud ei fod wedi cael gorchymyn i  chwilio am unrhyw wybodaeth a fyddai’n difrïo teulu Stephen Lawrence a’u hymgyrch dros gyfiawnder, wedi ei lofruddiaeth ym 1993.

Wrth siarad â BBC Radio 5 Live, dywedodd Michael Mansfield: “Rydym yn mynd i weld yr Ysgrifennydd Cartref ddydd Iau a gallaf sicrhau’r cyhoedd ein bod am alw am ymchwiliad cyhoeddus, agored. Mae 16 ymchwiliad yn cymryd lle ar y funud ond maen nhw i gyd yn rhai preifat.”

Mae Theresa May eisioes wedi cyhoeddi y bydd honiadau Peter Francis yn cael eu hystyried fel rhan o ddau ymchwiliad sydd eisoes ar y gweill ac y gall rhai gael eu herlyn yn dilyn yr ymchwiliadau.