Heddlu Ffrainc yn archwilio safle'r llofruddiaeth yn Annecy y llynedd
Mae dyn 54 oed wedi cael ei arestio yn Surrey mewn cysylltiad â llofruddiaeth teulu yn yr Alpau yn Ffrainc.
Cafodd Saad Al-Hilli a’i wraig Ikbal, ei mam Suhaila al-Allaf, a’r seiclwr Sylvain Mollier, eu saethu’n farw ger Annecy yn Ffrainc ym mis Medi’r llynedd.
Dywed Heddlu Surrey bod y dyn, sydd heb gael ei enwi, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio. Cafodd ei arestio mewn eiddo yn Chessington tua 7.30yb ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa lle bydd yn cael ei holi.
Credir mai brawd Saad Al-Hilli yw’r dyn sydd wedi cael ei arestio.
Roedd merch y cwpl, Zeena al-Hilli, 4 oed, wedi cael ei darganfod yn cuddio o dan gorff ei mam am wyth awr yn y car BMW ar ôl yr ymosodiad.
Roedd ei chwaer 7 oed, Zainab, wedi cael ei hanafu’n ddifrifol ar ôl cael ei saethu a’i churo.
Mae Heddlu Surrey wedi bod yn cydweithio gyda’r heddlu yn Ffrainc er mwyn ceisio datrys yr achos.