Mae’r SNP yn dathlu ar ôl dal gafael ar etholaeth Aberdeen Donside mewn isetholiad Senedd yr Alban.
Daliodd Mark McDonald afael ar y sedd gyda 42% o’r bleidlais er fod hyn yn ostyngiad o 13% ar ganlyniad etholiad 2011.
Dywedodd Nicola Sturgeon, Dirprwy Brif Weinidog yr SNP fod ennill yn y ddinas yn adlewyrchu’n dda ar y parti wrth iddyn nhw nesau at hanner ffordd trwy eu hail dymor o lywodraethu yn Holyrood.
Meddai: “Mae pobl yn ymateb yn dda i record yr SNP mewn llywodraeth a’r arian sydd wedi ei fuddsoddi i isadeiledd Aberdeen”.
Wfftiodd Nicola Sturgeon ymgais y Blaid Lafur gan ddatgan fod eu canlyniad yn wael o gysidro eu bod yn wrthblaid ers chwe mlynedd.