Fe gaeodd y Weinyddiaeth Amddiffyn eu swyddfa UFO yn 2009 oherwydd nad oedd yn ‘gwasanaethu unrhyw bwrpas’ ac yn tynnu staff i ffwrdd o waith amddiffyn pwysicach.

Mae gwybodaeth sydd newydd ei ryddhau yn dangos fod y penderfyniad i gau’r swyddfa wedi dod yn ystod blwyddyn hynod o brysur o ran UFOs, ond nid oedd digon o dystiolaeth yn dangos fod unrhyw fygythiad milwrol i Brydain yn bodoli.

Ymysg yr wybodaeth sydd wedi ei rhyddhau mae 4,400 o ddogfenau yn son am waith swyddfa’r UFO o 2007 hyd at 2009.

Roedd y swyddfa UFO yn cynnwys llinell ffôn ar gyfer unrhyw un oedd yn credu eu bod wedi gweld rhywbeth dieithr yn hedfan yn y nen.