Ricky Kerry
Mae’r heddlu yn chwilio am ddyn 19 mlwydd oed wnaeth ddianc o lys wrth i farnwr ei ddedfrydu i garchar.

Fe wnaeth Ricky Kerry redeg o’r doc yn Llys y Goron Southend wedi iddo gael ei ddedfrydu i 28 mis yn y carchar am ladrad.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Essex: “Fe wnaeth o ddianc ar droed toc wedi 12:45yp. Mae’n gwisgo tracwisg llwyd ac mae ganddo lygaid brown.”

Deallir bod Ricky Kerry, sydd o Southend, wedi dianc trwy ddrysau dwbl trwm wrth y fynedfa i’r llys. Fe wnaeth swyddogion diogelwch redeg ar ei ôl ond doedden nhw methu ei ddal.

Dywedodd yr heddlu bod Ricky Kerry wedi cael ei ddedfrydu am ladrad yn Sutton Road, Southend, ym mis Ebrill pan wnaeth o ddyrnu dyn a chymryd ei ffôn symudol.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Essex ar 101.