Yfory bydd prosiect digidol yn cael ei lansio sy’n gofyn i bobl ifanc yng Nghymru ffilmio rhan o’u diwrnod.

Mae DymaFi.tv yn cael ei arwain gan S4C ac wedi ei dargedu at blant a phobl ifanc rhwng 13 – 18 oed.

Bwriad y prosiect yw darganfod sut beth yw bod yn berson ifanc yng Nghymru heddiw ac uchafbwynt y prosiect fydd ffilm awr, i’w dangos ar S4C yn ystod yr Hydref.

Bydd rhwydd hynt i bobl ifanc ddefnyddio ffonau clyfar, camerau digidol neu gamcorder cyn llwytho’r gwaith i wefan DymaFi.tv. Mae’r prosiect yn awyddus i bobl ifanc ddangos unrhyw agwedd o’u bywydau megis diddordebau, ffrindiau a’u teulu.

Bydd pawb sy’n anfon fideo i fewn yn cael y cyfle i ennill iPad yn ogystal â’r siawns o weld eu gwaith ar y teledu nes ymlaen yn y flwyddyn.

Mae sefydliadau megis Mudiad Ieuenctid yr Urdd, Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru a DJ Radio 1, Huw Stephens yn cefnogi’r prosiect.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan y prosiect www.DymaFi.tv