Mae’r pump fydd yn brwydro yn rownd derfynol un o gystadlaethau canu clasurol mwya’r byd wedi cael eu henwi.

Drwy’r wythnos, mae 20 o gantorion clasurol ifanc wedi bod yn brwydro yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd.

Mae’r gystadleuaeth, sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd yn Neuadd Dewi Sant ac sy’n cael ei threfnu gan y BBC, yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 eleni.

Mae hi’n cael ei chydnabod fel un o’r prif lwyfannau i gantorion opera a chyngerdd ar gychwyn eu gyrfaoedd.

Mae 5 canwr wedi bod yn cystadlu bob nos yr wythnos hon er mwyn gwneud eu gorau i gael eu dewis gan y beirniaid i fynd i’r rownd derfynol nos Sul.

Y cantorion llwyddiannus yw Meeta Raval o Loegr, Olesya Petrova o Rwsia, Andrei Bondarenko o’r Wcráin, Hye Jung Lee o Dde Korea a Valentina Naforniţă o Moldova.

Cynhaliwyd clyweliadau dros y byd ac dewiswyd 20 o gantorion o dros 400 wnaeth ymgeisio i gymryd rhan yn y gystadleuaeth 8 diwrnod. Roedd Gary Griffiths o Sir Gaerfyrddin yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth nos Fercher ni lwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei darlledu ar BBC Two prynhawn dydd Sul am 5:30pm.