Mae pennaeth y Fyddin wedi rhybuddio y gallai peidio ag ariannu’r gwaith yn iawn “ddod yn beryglus, yn reit sydyn”.

Yn ôl y Pennaeth Staff Cyffredinol, Syr Peter Wall, fe fyddai parhau i dorri’n ôl ar yr arian y mae’r Fyddin yn ei dderbyn tra, ar yr un pryd, ddisgwyl iddi ddal i wneud yr un gwaith, yn “amharu llawer iawn”.

Fe wnaeth ei sylwadau ar yr union adeg pan mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn dan bwysau mawr i gyflwyno toriadau.

Mae’r Canghellor, George Osborne, yn disgwyl i bob un o adrannau’r llywodraeth yn San Steffan gymryd ei siâr o’r £11.5bn o doriadau sydd angen eu gwneud.