Mae dyn wedi ei ddedfrydu i garchar am oes – a hynny i olygu gydol ei oes – am lofruddio dwy blismones ynghyd â thad a mab ym Manceinion.
Wrth ddedfrydu Dale Cregan dywedodd y Barnwr, Mr Ustus Holroyde fod Cregan wedi erlid y ddwy blismones gyda “phenderfyniad gwaed oer”.
Ychwanegodd Ustus Holroyde fod marwolaeth y ddwy blismones yn weithred wedi’i rhag-baratoi yn “anwaraidd”.
Dywedodd y barnwr nad oedd chwaith wedi gweld awgrym o drugaredd nac edifeirwch gan Cregan i’r hyn a wnaeth.
Euog
Roedd Dale Cregan, 30, wedi pledio’n euog yn ystod yr achos llys i ladd y ddwy blismones, Nicola Hughes, 23, a Fiona Bone, 32, yn ogystal â thad a mab – David Short, 46, a Mark Short, 23.
Roedd hefyd wedi cyfadde’ i geisio llofruddio tri pherson arall ac o achosi ffrwydrad gyda grenâd.
Fe ddaeth y rheithgor yn Llys y Goron Preston i’r canlyniad ei fod yn ddieuog o un cyhuddiad arall o geisio llofruddio.