Mae ffatri gemegau yn nhalaith Louisiana wedi ffrwydro, yn ôl adroddiadau gan awdurdodau lleol.

Fe ffrwydrodd ffatri Williams Olefins yn Geismar fore heddiw, yn ôl y gwasanaeth tân lleol. Mae’r ffatri rhyw 60 milltir i’r gogledd orllewin o New Orleans, a 20 milltir i’r de o Baton Rouge.

Mae’r ffatri yn cynhyrchu oddeutu 1.3 miliwn pwys o ethylene a 90 miliwn pwys o propylene bob blwyddyn, yn ôl gwefan y ffatri.   

Mae’r gwasanaethau brys ar y safle ar hyn o bryd, ond does dim cadarnhad eto o unrhyw anafiadau.