Mae unig Aelod Seneddol y Blaid Werdd wedi honni fod rhesymau Tony Blair dros fynd i ryfel yn Irac yn rhai “ddiiffygiol iawn”.

Wrth agor dadl yn Nhŷ’r Cyffredin i ddynodi deng mlynedd ers dechrau’r rhyfel yn Irac, dywedodd Caroline Lucas fod gwybodaeth gudd wedi cael ei chamddefnyddio, a bod gwledydd Prydain bellach yn fwy o darged i derfysgwyr.

“A ydan ni’n teimlo’n fwy diogel?” gofynnodd yr Aelod tros Brighton a Hove. “A ydan ni’n teimlo fod y bygythiad i’n diogelwch ni wedi lleihau ers y colli gwaed a’r anghydfod?

“Y gwir amdani yw mai’r gwrthwyneb sy’n wir.”

Y golled

Fe gollodd Prydain 179 aelod o’r fyddin yn y rhyfel, gyda 136 o’r rheiny’n cael eu lladd tra ar ddyletswydd. Gadawodd byddin Prydain y wlad yn 2009.

Mae’r cyn-was sifil, Syr John Chilcot, yn dal wrthi’n paratoi ei adroddiad ar gyfraniad Prydain i’r rhyfel. Fe ddechreuodd ar y gwaith hwnnw yn 2009.

Cyhuddiad

Yn San Steffan heddiw, fe gyhuddodd Caroline Lucas y llywodraeth o beidio â chyhoeddi’r holl ddogfennau yn ymwneud â’r rhyfel, a’r hyn arweiniodd ato.

Nid am resymau “diogelwch cenedlaethol” y gwnaethpwyd hyn, meddai, ond yn hytrach er mwyn arbed embaras.