Mae tri gwrthdystiwr wedi eu harestio am dresbasu yn dilyn protest yn erbyn ymweliad Prif Weinidog Canada â Phalas San Steffan.

Roedd Stephen Harper ar fin annerch aelodau Tŷ’r Arglwyddi pan aeth y protestwyr i ben to’r siambr er mwyn tarfu ar ei araith toc wedi hanner dydd heddiw.

Fe gafodd dwy ddynes eu harestio hefyd ar amheuaeth o achosi difrol troseddol tu allan i fynedfa Black Rod.

Protestio yn erbyn beth?

Mae ymgyrchwyr yn erbyn math o danwydd sy’n cael ei alw’n ‘tar sands’. Maen nhw’n galw ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi camau gan yr Undeb Ewropeaidd i gydnabod fod ‘tar sands’ yn fwy llygredig na olew traddodiadol.

Mae ‘tar sands’ yn llawn ffurf dwys o betrolewm sy’n gallu cael ei echdynnu a’i ddefnyddio fel tanwydd. Ond mae hefyd yn cynhyrchu mwy o nwyon tŷ gwydr na ffynhonnau olew traddodiadol.