Dale Cregan
Mae dyn yn wynebu treulio gweddill ei oes dan glo am ladd pedwar o bobol, yn cynnwys dwy blismones.

Roedd Dale Cregan, 30, wedi pledio’n euog yn ystod yr achos llys i ladd y ddwy blismones, Nicola Hughes, 23, a Fiona Bone, 32, yn ogystal â thad a mab – David Short, 46, a Mark Short, 23.

Roedd hefyd wedi cyfadde’  i geisio llofruddio tri pherson arall ac o achosi ffrwydrad gyda grenâd.

Fe ddaeth y rheithgor yn Llys y Goron Preston i’r canlyniad ei fod yn ddieuog o un cyhuddiad arall o geisio llofruddio.

Diflannu

Fe ddiflannodd Dale Cregan rai dyddiau cyn iddo ladd David Short ym mis Awst y llynedd. Roedd eisoes wedi saethu ei fab, Mark, mewn tafarn yn Droylsden, Manceinion, dri mis ynghynt.

Daeth y chwilio amdano i ben ar 18 Medi pan ddenodd y ddwy blismones gyda galwad 999 ffug i dŷ yng Ngerddi Abbey yn Hattersley.

Fe agorodd y drws ffrynt wrth iddyn nhw gerdded i fyny’r llwybr, cyn eu saethu gyda gwn llaw. Yna, fe aeth i swyddfa heddlu gerllaw a chyflwyno’i hun i’r awdurdodau.