David Attenborough gydag arth wen
Mae’r naturiaethwr, David Attenborough, yn gwella ar ôl derbyn llawdriniaeth i osod rheolydd calon.

Roedd y darlledwr 87 oed ar fin cychwyn i Awstralia ddechrau’r mis, pan gafodd ei daro’n wael a’i orfodi i ohirio’r daith.

Mae bellach yn ddigon ffit i hedfan, ac yn bwriadu gwneud y daith i ben draw’r byd rywbryd ym mis Gorffennaf.

“Diolch i bawb am eu caredigrwydd a’r negeseuon hynaws,” meddai mewn datganiad. “Fe aeth popeth yn iawn, ac fe wela’ i bawb yn Awstralia yn fuan!”

Fe fydd yn ymweld â chwech o brif ddinasoedd Awstralia yn ystod ei daith, A Life on Earth, gan siarad am ei brofiadau.

Mae David Attenborough wedi bod yn darlledu ers 1952 ac yn enwog am ei gyfresi natur fel The Living Planet, Life in the Freezer a The Life of Birds.