Rhys Meirion
Mae’r tenor, Rhys Meirion, wedi recordio cân newydd sbon er cof am ei chwaer, Elen, a fu farw y llynedd.

Bydd y gân, ‘Llefarodd yr Haul’ o waith Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain, ar albwm newydd y canwr sydd i’w ryddhau ymhen ychydig wythnosau.

Ar ei dudalen Facebook toc cyn 11 o’r gloch neithiwr, roedd Rhys Meirion yn canmol y gân – a’r cyfansoddwyr yn arbennig.  

“Maen nhw wedi’i gwneud hi eto, Robin Llwyd ab Owain a Robat Arwyn, wedi creu cân arbennig iawn, iawn!” meddai. “Cân er cof am fy chwaer, Elen Meirion, o’r enw ‘Llefarodd yr Haul’.
 
“Newydd ei recordio, ac yn edrych ymlaen i bawb gael ei chlywed hi. Diolch hogia!”

Mae holl draciau’r CD newydd wedi’u recordio yn stiwdios cwmni Sain yn Llandwrog.

Fe fu Elen Meirion farw yn dilyn damwain yn ei chartref ym mis Ebrill, 2012.