Fe fydd dwy dunnell o flawd yn cael eu defnyddio yn ystod dawns newydd sy’n nodi hanner canrif ers ffrwydro bom yn argae Tryweryn.
Fe fydd y ddawnswraig Eddie Ladd yn perfformio Dawns Ysbrydion 09.02.63 yn Aberystwyth nos Fercher nesa’.
Mae’r perfformiad yn rhan o ddiwrnod o ddigwyddiadau yn y brifysgol, su’n benllanw prosiect sy’n edrych ar ymateb hanesyddol i dywydd eithafol a garw.
“Y peth a wnaeth fy nenu i – bod yr ymgyrch yn erbyn Tryweryn yn digwydd ymhlith y tywydd garw yna,” meddai Eddie Ladd. “Mae tywydd yn ddi-hid, a bod y tri yma wrth eu gwaith yn ystod y tywydd yna sydd mor enwog am 1962-63.
“O dipyn i beth, wnes i ddechre darllen am frodorion cynhenid America a fyddai’n cynnal dawnsfeydd ysbrydion yn erbyn y dyn gwyn oedd yn dod i America, oherwydd bod eu diwylliant nhw yn cael ei sarnu’n llwyr.
“Achos fy mod i’n wyn, mae’r llawr yn wyn, mae’r fflŵr ar lawr yn wyn, mae’n oer… mi wnes i ddechrau meddwl am hyn fel dawns ysbryd…”
Telyn wedi rhewi
Yn ymuno ag Eddie Ladd ar y diwrnod bydd sawl artist arall i gyfrannu at ‘Gymanfa’ undydd ar Fehefin 19.
Mae’r telynor o Aberystwyth, Rhodri Davies, wedi creu gwaith yn arbennig at y perfformiad – sef telyn wedi ei rhewi’n gorn. Bydd y delyn yn dadleth yn raddol yn ystod dawns Eddie Ladd, a phob crac yn cael ei recordio a’i atseinio, drwy law yr artist sain, Lee Patterson.
“Dy’ch chi ddim yn cael lot o sŵn diferion, ond sŵn y rhew yn troi ac yn gwegian yn erbyn darn arall o rew, ac mae hwnna’n effeithiol iawn,” meddai Eddie Ladd.
Y math yma o gerddoriaeth gyfoes ac arloesol – a elwir yn sonic art – y mae Rhodri Davies yn ei greu bob dydd. Mae wedi ennill gwobrau rhyngwladol am ei waith ar y delyn, er ei fod yn aml yn ei rhacso hi’n bishys.
Gofynnodd Eddie Ladd iddo gyfrannu i Dawns Ysbrydion ar ôl meddwl am yr helyg sy’n tyfu o dan y dŵr oer sydd yn Nhryweryn.
“Ar ôl darllen fod yna helyg ar lan afon Tryweryn (ar y ‘Tryweryn Trail’) daeth y stori am yr helygen i gof,” meddai Eddie Ladd.
“Dywedwyd bod yr Iddewon alltud wedi crogi eu telynau ar ganghennau’r coed wrth afonydd Babylon a’u nifer (a dwyster y profiad) yn eu tynnu tuag at y dŵr.”
Y Gymanfa
Amserlen y ‘Gymanfa’, Stiwdio Emily Davies, Adran Astudiaethau Theatr a Ffilm, Prifysgol Aberystwyth, Mercher, Mehefin 19:
2yp – Rhodri Davies (telyn) a Lee Patterson (artist sain) ar waith ar y delyn rhew (mynediad am ddim)
4yp – Darlith gan Dr Roger Owen (mynediad am ddim)
7.30yh – Dawns Ysbrydion 09.02.63 – Rhodri Davies, Lee Patterson, Roger Owen + Eddie Ladd (mynediad am ddim ond trwy docyn yn unig)