Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi’n swyddogol y bydd Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr yn dychwelyd ym Mehefin 2014.

Daeth dros 2,500 o ymwelwyr i’r wyl a ddigwyddodd am y tro cyntaf ym Mehefin 2012, gyda thros 100 o ddigwyddiadau yn cynnwys awduron, beirdd, cerddorion, artistiaid, actorion a digrifwyr.

Ymysg uchafbwyntiau’r ŵyl yr oedd yr hanesydd John Davies, y seren roc a’r awdur Julian Cope, y digrifwr Josie Long, y canwr Gruff Rhys a’r awdur o Iwerddon Clare Keegan.

Gwyl wahanol

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Roedd hon yn ŵyl Lenyddiaeth wahanol iawn – ychydig bach o Glastonbury, wedi ei gymysgu ag ychydig o agwedd hamddenol Gorllewin Cymru.

“Rydym ni wrth ein boddau o gael dychwelyd i Landeilo yn 2014. Yn ogystal â phenwythnos o ddigwyddiadau ar gyfer y teulu cyfan byddwn hefyd yn cynnal rhaglen eang o weithdai addysgol i blant ysgol lleol yn arwain at yr ŵyl.”

Trefnir Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r ŵyl cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru ar: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org neu ewch i ymweld â gwefan yr ŵyl www.gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk