San Steffan - 400 milltir o'r Alban
Mae’r Aelod Seneddol Llafur, Tom Harris, wedi ymddiswyddo o fainc flaen yr wrthblaid yn San Steffan.

Mae’n dweud nad yw’n gallu “cydbwyso ei gyfrifoldebau teuluol a proffesiynol”.

Mae gan Tom Harris dri o blant, ac mae’n rhoi’r gorau i’w swydd yn Llefarydd yr wrthblaid ar Amgylchedd. Mae ei deulu’n byw 400 milltir o San Steffan, yn yr Alban.

Dywedodd yr Aelod Seneddol tros Dde Glasgow nad oedd ei ddoniau yn “ymestyn i fod yn wleidydd mainc flaen yn ogystal â bod yn ŵr a thad da”.

Mewn llythyr at Arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband dywedodd Mr Harris, “Rwyt ti a’r blaid angen gwleidyddion mainc flaen sydd wedi llwyr ymroi eu hunain i gwestiynnu’r llywodraeth glymbleidiol yma a gweithio’n galed er mwyn symud i lywodraethu mewn dwy flynedd.”       

Dywedodd Mr Harris ei fod yn parhau i ymroi i weithio tros ei etholwyr.