Mae ffigyrau sydd newydd eu cyhoeddi heddiw’n dangos bod 40% o gynnydd wedi bod yn nifer y meddygon, deintyddion, nyrsys a bydwragedd sy’n gweithio yng Nghymru rhwng 2002 a 2012.

Mae yna 40% yn fwy o feddygon, deintyddion, gwyddonwyr a therapyddion nag oedd 10 mlynedd yn ôl, meddai’r ystadegau, a 10% yn fwy o nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, bod y ffigurau hyn yn adlewyrchu “ymrwymiad parhaus” Llywodraeth Cymru i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae’n honni fod y gwasanaeth wedi’i “staffio’n ddigonol i ymdopi a’r galw cynyddol”.

“Mae hwn yn gyfnod anodd yn economaidd, ac mae gennym benderfyniadau gwario anodd i’w gwneud,” meddai Carwyn Jones.

“Fodd bynnag, mae buddsoddi mewn staff rheng flaen, asgwrn cefn y GIG yng Nghymru, yn parhau i gynyddu.”

Hyfforddiant da

Fe groesawodd Carwyn Jones ganlyniadau arolwg gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).

Yn ôl canlyniadau’r arolwg, bod cyfradd boddhad – sef pa mor hapus ydi pobol gyda’u hyfforddiant – yn 81.5% yng Nghymru, o gymharu â 80.6% ar gyfer y Deyrnas Unedig yn gyfan.

Fe ddangosodd yr arolwg hefyd bod 70.1% o feddygon yn gweld ansawdd yr hyfforddiant yn ‘Ardderchog’ neu ‘Da’ – o gymharu â 65.6% ar draws y Deyrnas Unedig.