Mae chwech o Foslemiaid wedi cael eu carcharu am drefnu ymosodiad terfysgol ar gyfarfod yr EDL yng Ngogledd Swydd Efrog.

Cafodd y chwech eu carcharu am hyd at 19 mlynedd a hanner yr un.

Dywedodd y barnwr bod y chwech wedi cael eu hysbrydoli gan “ddeunydd eithafol oedd ar gael yn hawdd.”

Teithiodd y chwech i’r rali yn Dewsbury fis Mehefin diwethaf gyda llu o arfau yng nghefn y car, gan gynnwys drylliau, cleddyfau, cyllyll a bomiau cartref.

Cyfaddefodd Jewel Uddin, 27, Omar Mohammed Khan, 31, Mohammed Hasseen, 24, Anzal Hussain, 25, Mohammed Saud, 23, a Zohaib Ahmed, 22, mewn gwrandawiad ym mis Ebrill eu bod nhw wedi trefnu’r ymosodiad.

Cafodd Khan, Uddin ac Ahmed eu carcharu am 19 mlynedd a hanner a chyfnod ychwanegol o bum mlynedd ar drwydded, tra bod y tri arall wedi’u dedfrydu i 18 mlynedd a naw mis dan glo, gyda chyfnod ychwanegol o bum mlynedd ar drwydded.

Gwaeddodd aelodau’r EDL “God Save The Queen” o’r galeri cyhoeddus wrth i’r chwech gael eu dedfrydu.

Roedd eraill i’w clywed yn galw “Allahu Akbar”.

Bydd y chwech yn gorfod cwblhau dau draean o’r ddedfryd cyn cael eu hystyried am barôl.

Y cefndir

Teithiodd pump o’r criw i’r rali ar Fehefin 30 y llynedd, gyda’r bwriad o anafu a lladd ar raddfa fawr.

Daeth y digwyddiad i ben am 2 o’r gloch, ond fe gyrhaeddodd y criw am 4 o’r gloch, ac fe gawson nhw eu dal gan yr heddlu.

Cafodd yr arfau eu darganfod ar ôl iddyn nhw gael eu harestio.

Dywedodd y barnwr Nicholas Hilliard QC ei fod e’n credu y gallai’r criw gynllunio ymosodiad tebyg yn y dyfodol oni bai  eu bod nhw’n cael eu carcharu.

Ychwanegodd ei fod e wedi rhoi dedfryd hir i’r chwech gan y gallen nhw fod wedi anafu plismyn ac aelodau’r cyhoedd nad oedden nhw’n rhan o’r rali.